Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 12 Chwefror 2025

Amser y cyfarfod: 13.30
 


261(v3)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(45 munud)

Bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn ateb cwestiynau ar ran yr Ysgrifennydd Cabinet.

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidogion ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(0 munud)

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Bwyd

(60 munud)

NDM8814 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) er gwaethaf y digonedd o fwyd o safon a gynhyrchir gan ffermwyr Cymru, mae goruchafiaeth bwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn ein diet yn arwain at ganlyniadau dinistriol i iechyd, cyfoeth a llesiant ein cenedl;

b) bod mynediad at fwyd fforddiadwy ac iach yn fater cyfiawnder cymdeithasol, gyda chymunedau tlotach yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan afiechydon sy'n gysylltiedig â diet;

c) bod cynhyrchiant Cymru o 20,000 tunnell o ffrwythau a llysiau y flwyddyn ond yn cyfateb i chwarter dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd fesul person;

d) y gall ehangu cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy helpu i leihau milltiroedd bwyd, gwella diogelwch bwyd, a chreu swyddi gwyrdd yng Nghymru; ac

e) bod pontio i fod yn genedl fwyd gynaliadwy yn gofyn am ddull cydgysylltiedig, cydweithredol ac ataliol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu strategaeth llywodraeth gyfannol a chydgysylltiedig i wella diet pobl;

b) hyrwyddo manteision bwyd ffres, heb ei brosesu i annog newidiadau dietegol a mynd i'r afael â goruchafiaeth bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth;

c) defnyddio'r buddsoddiad sydd i'w groesawu mewn partneriaethau bwyd lleol i ddod â thyfwyr, arlwywyr a bwytawyr at ei gilydd i ehangu garddwriaeth yng Nghymru;

d) cyflymu'r gwaith o lunio strategaeth fwyd gymunedol o fewn y Chweched Senedd; ac

e) defnyddio pŵer caffael cyhoeddus i wella'r bwyd a weinir i ddisgyblion, cleifion a phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.

Cyd-gyflwynwyr

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Peter Fox (Mynwy)

Supporters

James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Lee Waters (Llanelli)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

</AI6>

<AI7>

6       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Sioc ddiwylliannol: Diwylliant a’r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd

(60 munud)

NDM8822 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Sioc ddiwylliannol: Diwylliant a’r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2024.

Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2025.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymchwiliad i gamfanteisio'n rhywiol ar blant

(60 munud)

NDM8821 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad annibynnol i gamfanteisio'n rhywiol ar blant gan gangiau meithrin perthynas amhriodol.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu'r cyfan a'i ddisodli gyda'r canlynol:

Cynnig bod y Senedd

1. Yn condemnio'r methiannau sefydliadol a arweiniodd at yr esgeulustod a'r diffyg adrodd achosion o gam-drin plant dros sawl degawd, fel y canfuwyd yn ymchwiliad annibynnol yr Athro Alexis Jay yn 2022.

2. Yn canmol dewrder y dioddefwyr a'r goroeswyr am rannu eu tystiolaethau, ac yn credu y dylai eu lleisiau bob amser gael blaenoriaeth wrth adolygu a chryfhau'r mesurau diogelu perthnasol.

3. Yn cydnabod pryder diweddar y cyhoedd ynghylch trais a cham-drin rhywiol gan rwydweithiau cyfundrefnol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithredu holl argymhellion Adroddiad Jay yn ddi-oed;

b) ymgysylltu â phob sefydliad ar y rheng flaen sy'n gwasanaethu dioddefwyr a goroeswyr trais a cham-drin rhywiol;

c) gweithio gyda heddluoedd Cymru i gynnal archwiliad Cymru gyfan ar unwaith, gyda goruchwyliaeth annibynnol briodol, a sicrhau cydweithrediad â'r archwiliad ar draws y DU dan arweiniad y Farwnes Casey i raddfa a natur camfanteisio gan gangiau; a

d) ystyried comisiynu ymchwiliad annibynnol llawn yn sgil y dystiolaeth a gasglwyd gan yr archwiliad.

Adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (Saesneg yn unig)

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Fer

(30 munud)

NDM8810 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Cau'r trap am byth - yr achos dros wahardd rasio milgwn yng Nghymru.

</AI10>

 

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 18 Chwefror 2025

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>